31.7.06

Golygyddol


Dyma dechrau blog i ddadlau'r achos dros Gymru Rydd, Cymraeg Sosialaidd. Y bwriad gwreiddiol oedd cynhyrchu ffansin bapur, ond am amryw o resymau (cyllid yn bennaf)rydym wedi gorfod dechrau efo ffansin arlein.

Yn absenoldeb dudalen lythyrau mae croeso i chi gyfrannu at y bwrdd trafod. Mae'n lle da i drafod erthyglau bu ar y blog neu i ddechrau'ch trafodaethau eich hunain.

Os hoffech i ni gynnwys erthygl neu gerdd ar brif dudalen y ffansin yna mae croeso i chi ei danfon fel neges breifat i Madyn ar y negesfwrdd. Bydd erthyglau a'i ystyrir yn ddifyr gan y bwrdd golygyddol yn cael eu hychwanegu i'r blog - fel y gwnaed yn fan hyn efo erthygl sbecspeledrx o faes-e.

Y prif obaith wrth ddechrau'r blog / ffansin yw y bydd hi'n sbardun nid yn unig i drafodaethau ond i weithredu tuag at y nod o Gymru Sosialaidd. Darllenwch, Trafodwch, Mwynheach, ond yn fwy na rhain i gyd - Gweithredwch.

Annibynniaeth a Sosialaeth.

Oni'n gyrru nol at y ffin o Aberystwyth bore 'ma ac yn gwrando ar Ralph Mc Tell. Nath o fy atgoffa o chydig o brofiadau dwi wedi eu cael yn yr wythnos diwethaf.

Dwi'n gweithio i fi fy hun, ond mae hanner fy nghwaith yn dwad drwy is-gontractio i cwmni mawr prydeinig yn Birmingham - sy'n cael trwch y gwaith Saer Clo gan eu bod yn gallu fforddio hysbysebion mawr yn y Llyfr ffon, tudalenau melyn ayb.

Ges i alwad i adael hen ddyes oedd yn dechrau colli ei meddwl i fewn i'w thy ar noson oer ryw fis yn dol. Roedd hi'n hwyr y nos, ac ar ol gadael hi fewn nath hi drio talu fi efo'i llyfr swyddfa post - ac bu rhaid i mi esbonio iddi nad oedd y swyddfa post ar agor amser yma'r nos. Ffonies i'r cwmni ac mi naetho nhw ddeud wrthai i fynd a'i theledu fel sicrwydd y byddai'n fy nhalu fory. Mi glywodd hi a dechrau crio. Ar ol i mi wrthod fe wnaethon nhw deud na chai waith ganddynt byth eto. Digon teg - dwi'm isio bod yn bailiff i ffycars felna. Hwn oedd yr ail dro iddi cloi ei hun allan ac roedd ryw fandit wedi codi £125 arni am ei gadael i fewn wythnos ynghynt.

Mae hi wedi cloi ei hunain allan 4 gwaith ers hynnu. A dwi di mynd am ddim i'w gadael hi fewn. Wrth iddi drio neud paned i mi bu bron iddi gosod ei chegin ar dan a dwi wedi felly cysylltu ar gwasanethau cymdeithasol iddynt fynd i rhoi help iddi. Mae nhw'n dweud eu bod yn rhy brysyr. Tra bo Murdoch yn gwneud Biliynnau a tra bo arian yn cael ei wastraffu ar arfau niwclear a cyflogau bras i wleidyddion does dim digon o bres i sicrhau adnoddau i rhywun pan mae hi eu hangen!

Roedd y cwmni oni'n is contractio iddynt yn codi £99 arni i'w gadael i fewn ac yn rhoi £20 i mi am wneud y gwaith. Cyfalaf (nhw) yn exploitio gweithiwr (fi).

Wedyn bu farw ffrind i fi yn y Royal Gwent. Dynes oedd wedi byw drwy caledi'r ail ryfel byd, wedi gweithio'n galed gydol ei hoes wedi i'w gwr hi farw o llwch ar yr ysgyfaint. Doedd ganddi ddim teulu ar ol a bu hi farw mewn poen mewn ysbytu lle doedd y staff yn hidio dim amdani. Roedden nhw'n gweiddi "shut up you crazy old woman" arni ac yn methu hyd yn oed ffeindio amser i'w chadw hi'n lan os nad oeddwn i yno.

"One more forgotten hero and a world that doesn't care" - dwi mor falch nad ydw i, oherwydd pwysau gwaith a cwtogi yn gorfod bod yn rhan o'r byd sy'n malio dim.

Dwi wedi bod yn ddigartref am gyfnod o tri mis o methu fforddio lle i fyw. Er mod i di gweithio gydol fy oes. Nes i lwyddo i aros mewn gwaith tra'n byw ar strydoedd Caerdydd. Ond pam ddylsai dyn bod yn ddigartref os yw'n gweithio'n amser llawn? Gall rhywun ddim gwneud mwy.

I'r pobl yma beth yw pwynt anibyniaeth gwleidyddol heb ei fod yn gweddnewid Cymdeithas? Beth yw'r gwahaniaeth os oes bathodynnau iaith gwaith gan y bailiffs os ydyn nhw dal i ddwyn dy eiddo?

Y bobl yma yw mwyafrif pobl Cymru. Mae'n rhaid i unrhywun sydd o ddifrif am enill hunan lywodraeth apelio at y bobl yma. Does gen i ddim ffydd yng nghallu nac ychwaith yn "isio" Plaid Cymru i fedru neud hyn. Ond byddwn yn falch o gael fy mhrofi'n anghywir.

Does ddim llawer o Gymry Cymraeg dosbarth gweithiol yn fy ardal i, ac mae'r rhai sydd yma yn teimlo allan ohoni yn llwyr ac mor unig. Neb i siarad ein hiaith efo nhw, achos mae'r diwylliant Cymraeg a'r blaid neu mudiad sydd i fod yn arwain y genedl mor tossy dosbarth canol. Dyw iaith ddim yn ddigon mewn cyffredin i olygu ein bod yn rhannu diwylliant na daliadau gyda nhw. Dyma pam nad yw'r diwylliant Cymreig yn ddigon deniadol i mwyafrif bobl Cymru fel eu bod yn fodlon mynd ati i ddysgu'r iaith. Ac o mhrofiad i hyd yn oed yn Nghaernarfon a ballu dyw mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn ymwneud byggar all efo'r "diwylliant Cymraeg".

Mi fydd y dosbarth canol Cymraeg (asgwrn cefn Plaid Cymru) ac yn sicr trwch ei harweinyddiaeth yn siwr o neud yn wych allan o anibynniaeth gwleidyddol - ond fyddant hefyd yn gwneud bron cystal allan o Gymru datganoledig. Efallai bod hyn yn esbonio pam nad ydynt yn barod i siglo'r cwch drwy dechrau ymgyrch taer drost anibynniaeth? Os am gynrychioli pobl Cymru dylsai cynrychiolwyr Plaid neu mudiad cenedlaetholgar wrthod y lwfans llawn a'r costau hael a dim ond derbyn yr hyn mae gweithiwr cyffredin yn ei dderbyn am ei waith.

Dim ond chwyldro, cymdeithas newydd tecach, lle mae dyn yn cael yr iawn dal am werth ei waith a lle bo adnoddau'r Gymdeithas yn gweithio er budd y Gymdeithas cyfa yn hytrach nac i neud ciwed bach ariannog yn fwy ariannog bydd yn tanio dychymyg yr unig bobl sydd â'r grym i rhyddhau ein gwlad. Y Cymry.

Cyfranwyd gan Sbecspeledrx o Faes-e

Marx ac Englyn

Coelcerth

Coelcerth y cwango, dyna’r addewid,
Aru’n perswadio i bleidleisio,
am fwy o wleidyddion, ac esgus o ryddid,
a derbyn llai nac oedd arnom ei eisio,

Ond yna’r gwirionedd,
Doedd dim newid byd,
Mae bastads y Senedd,
Yn ein shiafftio o hyd.

Cyflogau bras i siwts llwyd diflas,
Di flach, di egwyddor, penseiri’r brad,
Cynrychiolwyr y gweithwyr yn rheibio’r gwas,
A’n Llafur di’w phrynnu’n uffernol o rhad.

Nid democratiaeth yw dewis rhwng rhain,
Tori’s bach pinc a rhai sy’n siarad Cymraeg,
Wrth rhannu ein cyfoeth rhwng y cŵn a’r brain,
Dan anasthetig Murdoch, rhag ddeffro’r ddraig.

Deued y dydd pan mai ni fydd y meistri,
A flammau coch rhyddid yn llosgi eu tinnau,
Y gweithle’n atseinio i’n brawdol rhyfelgri,
A coelcerth y chwyldro’n ein harfogi ninnau.

Cyfranwyd Gan - Aelod o'r fforwm.