14.8.06

Willie McBride it's all happened again, and again and again and again and again.

http://www.firstworldwar.com/diaries/graphics/gallipoliwounded.jpg

A hithau'n 91 mlynedd ers i Churchill a Kitchener danfon miloedd o hogie prydain a'i hymerodraeth i farw yn y gem fach ymerodraethol a elwir y rhyfel byd cyntaf. Oni'n meddwl y byddwn yn rhannu fy ngherdd am y digwyddiad gyda chi.

Ni chafodd yr ymosodiad ei gynllunio nai arwain yn gywir ac bu farw miloedd (yn arbennig ANZAC's Awstralia a Seland Newydd) yn y ffyrdd mwyaf ffiaidd tra bo'r generals a'r gwleidyddion yn cysgu ar y job neu'n eistedd ar eu tinnau miloedd o filltiroedd i ffwrdd.

Ceir mwy o wybodaeth am y digwyddiadau o Wikepedia

Dyma'r gerdd.

Y Bae

Staen claret yr ogie yn anodd i'w shifftio,
Gwin gorau Awstralia di tywallt a suro,
Bomiau y twrciaid yn ffrwydro mileidd-dra,
"Lle ffwc mae'r gwleidyddion aru danfon ni yma?"
Hoe yn y lladdfa, claddu gwareidd-dra,
a claddu y rhai na fydd yn mynd adra,
Yn Nhonnau Bae Suvla fe bwrais fy swildod,
fel ci bach 'r ol tridie agorodd fy llygaid,
Yng nghannol y lladd-dy, fe welais nad bwled,
aru rhwygo trwy'm cnawd a malu pob gobaith,
am fywyd cyffredin, ac am fedru cerdded,
Churchill a'i debyg sydd a'r cyfrifoldeb,
Er colli y frwydr - iddyn nhw'r fuddugoliaeth.


Ymddengys bo disgwyl i ni frwydro a marw yn eu rhyfeloedd imperialaidd dro ar ol tro. Nid oedd gan Gymru unrhyw frwydr a'r Almaen na Thwrci ym 1915. Fel nad oedd ganddi brwydr efo'r Ariannin yn 1982 nac Irac heddiw. Nid ymwrthod a rhyfel Irac ar sail fod yn heddychwyr trendi dylsai'r Cymry fod yn neud - ond ei wrthwynebu ar y sail gwrth imperialaidd. Gadewch i ni ddatgan yn glir nad ydym am weld yr un diferyn arall o waed Cymreig yn cael ei dywallt yn enw ymerodraeth Lloegr.

Churchill, Thatcher a Blair yw'r gelynion. Yn yr un modd ac yr oedd Galtieri a'r Kaiser yn elynnion i bobl cyffredin yr Ariannin a'r Almaen.

Beth am drefnu ymgyrch yn erbyn gadael i fyddin yr ymerodraeth recriwtio yma yng Nghymru?

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan